top of page

Hanes y Cynllun

Sefydlwyd Cynllun Tro Da Benllech a’r Cylch ym mis Awst 2000. Y brif nod oedd ysgogi pobl leol i helpu pobl leol.

Yn y cychwyn daeth grŵp bach o bobl at ei gilydd gyda chefnogaeth ac arweiniad y Biwro Gwirfoddol (Medrwn Môn erbyn hyn) i wireddu’r syniad hwn.

 

Dros y misoedd dilynol, cafodd llawer o waith caled ei wneud i annog gwirfoddolwyr newydd, i sicrhau’r gwasanaeth lleol pwysig hwn ac i roi trefniadau gweinyddol a threfn lywodraethol ar waith.

 

Ym mis Mawrth 2001, cafodd y cynllun ei lansio yn swyddogol gydag erthyglau papur newydd yn ymddangos yn Yr Arwydd, y Chronicle a’r Holyhead & Anglesey Mail, cafodd hyn ei gefnogi gan ymgyrchoedd posteri mewn siopau, llyfrgelloedd a meddygfeydd lleol. Cafodd gwaith marchnata pellach ei wneud trwy ddosbarthu taflenni o ddrws i ddrws i a gwneud cyflwyniadau i sefydliadau lleol eraill.

 

O’r ‘tro da’ cyntaf yn 2001, rydym wedi mynd o nerth i nerth, mae gennym 40 o wirfoddolwyr a 150 o ddefnyddwyr gwasanaeth erbyn hyn. O ganlyniad i ymroddiad ein gwirfoddolwyr, mae cyllun Tro Da Benllech a’r Cylch yn un o’r cynlluniau cludiant cymunedol gorau ar yr ynys.

 

Rhwng y flwyddyn 2001 a 2019 mae’r cynllun wedi gwneud 37,148 tro da sy’n cyfateb i 44,491 awr a 409,053 milltir o deithio, sy’n ardderchog i sefydliad cymunedol lleol bach.

bottom of page