top of page

Gwirfoddoli

Mae ein gwasanaethau’n dibynnu ar garedigrwydd ein gwirfoddolwyr, sy’n hapus i roi o’u hamser i helpu pobl leol gyda thasgau dyddiol megis apwyntiadau doctor ac ysbyty, siopa, bancio ac ymweliadau cartref. Os hoffech chi ein helpu i wneud gwahaniaeth, gallwch ddefnyddio’r manylion ar ein tudalen cysylltu â ni.

wpf9581f85_05_06.jpg

Gwybodaeth syfaenol

Bydd pob gwirfoddolwr yn cael cyfweliad cychwynnol ac mae rhaid iddynt fod yn 18 oed neu hÅ·n. Yn ystod y cyfweliad gofynnir i chi nodi natur eich cyfraniad a faint o amser y gallwch ei roi, megis y dyddiau rydych ar gael, a pha un ai a ydych yn dymuno bod yn  yrrwr gwirfoddol, neu a ydych yn dymuno cyfrannu mewn ffyrdd eraill. Dylech gofio, fel gwirfoddolwr gallwch gyfrannu gymaint neu cyn lleied o amser ag y dymunwch i’r cynllun, nid oes yna leiafswm neu uchafswm. 

 

 

Os ydych yn penderfynu bod yn ‘yrrwr gwirfoddol’ bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth o’r canlynol:-

  • Trwydded Yrru ddilys

  • Tystysgrif (os yw’n berthnasol)

  • Tystysgrif Yswiriant

  • Llythyr awdurdodi wedi’I lofnodi gan eich cwmni yswiriant (byddwn yn darparu llythyr safonol i chi ei anfon i’ch cwmni yswiriant).

 

Gofynnir i’r holl ddarpar wirfoddolwyr:-

  • Am eu sgiliau, profiad ac addasrwydd

  • I ddarparu enwau dau ganolwr addas

  • I lenwi’r ffurflenni perthnasol gan gynnwys arwyddo’r Cytundeb Gwirfoddoli

 

Mae gyrwyr gwirfoddol yn cael Taflenni Cofnodi i nodi milltiredd eu car ar ddechrau ac ar ddiwedd pob taith ynghyd â manylion eraill. Bydd rhestr o ffioedd nominal yn cael eu darparu i’r gyrwyr gael gofyn am y taliad cytunedig (h.y lleiafswm o £2 a/neu 50c am bob milltir). Gellir hawlio treuliau parod trwy gyflwyno’r ffurflen briodol i’r Trysorydd pob mis a bydd ad-daliad fel arfer yn cael ei wneud pob chwe mis.

 

Bydd manylion pellach yn cael eu rhoi ar ôl i chi gael eich derbyn ynghyd â llyfryn gwybodaeth y cynllun.

 

Mae’r cynllun Tro Da yn trin holl wirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaeth gydag urddas a pharch, ni waeth beth yw eu hil, ethnigrwydd, cenedligrwydd, rhyw, tueddfryd rhywiol, iaith, anabledd, oed, crefydd, lliwiau gwleidyddol neu ddosbarth cymdeithasol ac economaidd. Bydd honiadau o unrhyw aflonyddwch gan naill ai wirfoddolwr neu ddefnyddiwr gwasanaeth yn cael eu trin yn hynod ddifrifol.

bottom of page