
Gwirfoddoli
Mae ein gwasanaethau’n dibynnu ar garedigrwydd ein gwirfoddolwyr, sy’n hapus i roi o’u hamser i helpu pobl leol gyda thasgau dyddiol megis apwyntiadau doctor ac ysbyty, siopa, bancio ac ymweliadau cartref. Os hoffech chi ein helpu i wneud gwahaniaeth, gallwch ddefnyddio’r manylion ar ein tudalen cysylltu â ni.

Gwybodaeth syfaenol
Bydd pob gwirfoddolwr yn cael cyfweliad cychwynnol ac mae rhaid iddynt fod yn 18 oed neu hÅ·n. Yn ystod y cyfweliad gofynnir i chi nodi natur eich cyfraniad a faint o amser y gallwch ei roi, megis y dyddiau rydych ar gael, a pha un ai a ydych yn dymuno bod yn yrrwr gwirfoddol, neu a ydych yn dymuno cyfrannu mewn ffyrdd eraill. Dylech gofio, fel gwirfoddolwr gallwch gyfrannu gymaint neu cyn lleied o amser ag y dymunwch i’r cynllun, nid oes yna leiafswm neu uchafswm.
Os ydych yn penderfynu bod yn ‘yrrwr gwirfoddol’ bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth o’r canlynol:-
-
Trwydded Yrru ddilys
-
Tystysgrif (os yw’n berthnasol)
-
Tystysgrif Yswiriant
-
Llythyr awdurdodi wedi’I lofnodi gan eich cwmni yswiriant (byddwn yn darparu llythyr safonol i chi ei anfon i’ch cwmni yswiriant).
Gofynnir i’r holl ddarpar wirfoddolwyr:-
-
Am eu sgiliau, profiad ac addasrwydd
-
I ddarparu enwau dau ganolwr addas
-
I lenwi’r ffurflenni perthnasol gan gynnwys arwyddo’r Cytundeb Gwirfoddoli
Mae gyrwyr gwirfoddol yn cael Taflenni Cofnodi i nodi milltiredd eu car ar ddechrau ac ar ddiwedd pob taith ynghyd â manylion eraill. Bydd rhestr o ffioedd nominal yn cael eu darparu i’r gyrwyr gael gofyn am y taliad cytunedig (h.y lleiafswm o £2 a/neu 50c am bob milltir). Gellir hawlio treuliau parod trwy gyflwyno’r ffurflen briodol i’r Trysorydd pob mis a bydd ad-daliad fel arfer yn cael ei wneud pob chwe mis.
Bydd manylion pellach yn cael eu rhoi ar ôl i chi gael eich derbyn ynghyd â llyfryn gwybodaeth y cynllun.
Mae’r cynllun Tro Da yn trin holl wirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaeth gydag urddas a pharch, ni waeth beth yw eu hil, ethnigrwydd, cenedligrwydd, rhyw, tueddfryd rhywiol, iaith, anabledd, oed, crefydd, lliwiau gwleidyddol neu ddosbarth cymdeithasol ac economaidd. Bydd honiadau o unrhyw aflonyddwch gan naill ai wirfoddolwr neu ddefnyddiwr gwasanaeth yn cael eu trin yn hynod ddifrifol.